Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Waterwheel at LlywernogYstrad EinionCwm Ystwyth
 

Gwybodaeth Biolegol


Mae nifer o'r hen gloddfeydd metel yng Nghanolbarth Cymru yn cynnwys bywyd gwyllt prin a diddorol. Mae mwynau plwm, sinc a chopr yn hindreulio i gynhyrchu cemegau sy'n wenwynig i fwyafrif y planhigion a ffyngau. Mae rhai rhywogaethau wedi esblygu i ymdopi â'r amodau caled hyn. Ceir ffurfiau o faeswellt cyffredin sy'n gallu gwrthsefyll metel ac mae'n aml ymhlith y planhigion cyntaf sy'n ymddangos ar domenni cloddfeydd.
Gludlys Arfor



Mae gludlys arfor, planhigyn a welir ar glogwyni agored ar yr arfordir fel arfer, yn gallu goddef metelau hefyd ac mae ambell i hen gloddfa yn gartref mewndirol prin iddo.



Porpidia Macrocarpa (Cennau)



Mae un grŵp o ffyngau wedi datblygu perthynas fuddiol arbennig gydag algae i ffurfio cennau. Mae nifer o rywogaethau cennau, a ddisgrifir fel metallophytes, yn gallu tyfu ar greigiau, pridd a hen adeiladau cloddfeydd sy'n cynnwys llawer o fetelau trwm. Maent hyd yn oed yn amsugno'r metelau ond maent yn eu dal mewn cyfansoddion cymhleth yn gyflym lle nad ydynt yn achosi unrhyw berygl. Mae cennau yn rhoi lliw i'r creigiau mewn nifer o hen gloddfeydd ac mae Ceredigion yn cynnwys rhai o'r cennau metallophyte mwyaf diddorol yng ngorllewin Ewrop.
Rhedyn y Clogwyn



Mae sawl rhywogaeth o rhedyn yn tyfu ar y creigiau, yr hen waliau a'r adeiladau, ac mae rhai yn manteisio ar pH uwch morter calch. Gwelir y boblogaeth hysbys fwyaf ym Mhrydain o'r rhedyn prin Rhedyn y Clogwyn gerllaw cloddfeydd metel gorllewin Cymru ac mae cloddfa Cwmsymlog yn cynnwys poblogaeth braf o'r rhain.

Hamatocaulis Vernicosus (Mwsogl yn yr Ucheldir)




Gwelir mwsogl bach prin, Mwsogl Plwm Ditrichum plumbicola mewn nifer o gloddfeydd yng Ngheredigion. Fe'i gwelir ym Mhrydain a'r Almaen yn unig, lle y caiff ei gyfyngu i rwbel sy'n cynnwys plwm. Daw ei enw o'r gair Lladin 'plumbum' sy'n golygu plwm.




Dynodwyd nifer o'r cloddfeydd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n rhoi diogelwch cyfreithiol iddynt dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, a ddisodlwyd gan Atodlen 9 Deddf Cefn gwlad a Hawliau Tramwy 2000.


Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Diolch i Gyngor Cefngwlad Cymru am ddefnydd o'r ffotograffau.