Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Waterwheel at LlywernogYstrad EinionChimney, Taliesin
 

Cyflwyniad


Croeso fel yr ydyn ni'n dweud yma yng Nghymru!


Helo, fi yw Iwan y mwynwr a dwy yma i'ch tywys i lawer o flynyddoedd o hanes diwydiannol sydd wedi'i cuddio ym mryniau Sir Ceredigion. Os cliciwch chi arnai fe af a chi drwy 4000 o flynyddoedd o hanes.
Ceredigion yng Nghymru

Felly ble i ni?

Mae Ceredigion yn sir wledig brydferth a thenau ei phoblogaeth ym Mae Ceredigion ar arfordir gorllewinol Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Er bod Ceredigion yn un o siroedd mwyaf Cymru, o ran arwynebedd, mae'n un o'r lleiaf o ran nifer poblogaeth. Mae mwyafrif y boblogaeth o 70,000 yn medru'r Gymraeg a'r Saesneg ac yn byw mewn dros 150 o drefi a phentrefi gwasgaredig.
Er mai Aberystwyth yw'r dref fwyaf ar arfordir gorllewinol Cymru, dim ond rhyw 15,000 o bobl sydd yn byw yno - ac, yn ystod cyfnodau tymor y Brifysgol, mae hanner y rheini yn fyfyrwyr!


Dyw Sir modern fel Geredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser.

Mae Mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd.

Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg.Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt.
Cwm Rheidol
Aberystwyth

Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont - yn aml heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll .......... diwylliant hanesyddol cloddio.


Mae Ysbryd y Mwynwyr yn ceisio atgoffa pobl o'r rhan yma o'r dreftadaeth ac annog cymunedau/sefydliadau i ddathlu'r etifeddiaeth mwyngloddio trwy ddefnyddio gronfa grant er mwyn gweithredu syniadau.

Gall y lleoliadau hyn a mwy cael eu darganfod ar dudalen Mapio GIS.

Mae'r wefan wedi'i rannu imewn i adrannau er mwyn i chi fedru darganfod mwy am y rhanbarth, yr hanes mwyngloddio a'r amgylchedd.

• Mae'r adran Hanes yn eich tywys trwy ddigwyddiadau cronolegol sydd wedi'u rhannu mewn i gyfnodau hanesyddol â dderbynnir yn gyffredinol, tra'n defnyddio'r llinell amser.

• Mae adran yr Amgylchedd yn esbonio yn fwy manwl ddaeareg a bioamrywiaeth y safleoedd hyn a sut mae ystlumod a fflora & ffawna eraill yn defnyddio etifeddiaeth mwyngloddio yn null natur ei hun.

• Mae'r adran Pethau i'w gweld a gwneud yn rhoi mwy o wybodaeth am lefydd i'w ymweld a beth sydd i'w wneud yn yr ardal.

• Bydd yr oriel yn datblygu fel fydd y prosiect yn mynd ymlaen.

• Mae adran manylion y prosiect yn sôn fwy am Ysbryd y Mwynwyr, y fathau o brosiectau sydd yn cael eu ariannu o'r gronfa grant a sut i fynd ati i wneud cais.

• Mae adrannau'r dolenni a darllen pellach yn hunaneglurhaol ac meant yn cydnabod ffynonellau gwybodaeth a rheini a chyfrannodd i'r wefan.

Hoffai dîm Ysbryd y Mwynwyr ddiolch i'r foll sefydliadau a unigolion sydd wedi rhoi cymorth i ddatblygu'r prosiect, yn enwedig i rheini a fuodd mor amyneddgar yn ein helpu i ddatblygu'r wefan, gan gynnwys, ond sydd ddim yn gyfyng i'r canlynol:

David Bick (diweddar), Roger Bird, Peter Claughton, Roy Fellows, Michael Freeman, Peter Lloyd Harvey, Simon Hughes, Robert Ireland, Robert Protheroe-Jones, Graham Levins, John Mason, Tom McOwatt, Robert Pritchard, Simon Timberlake.