Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
OchreWheelhouse, Bryn yr ArianChimney, Taliesin
 
Miner crawling through tunnel
Gall rhanu hanes mwyngloddio yng Ngheredigion i mewn i deg cyfnod:
  • Geology
  • Prehistoric Britain 450,000 BC-43 AD
  • The Roman occupation 43 AD-c410
  • The Early Medieval period c410-1066
  • The Middle Ages - medieval era 1066-1485
  • The Tudors 1485-1603
  • The Stuarts 1603-1714
  • The Georgian era 1714-1837
  • Industrial Britain 1837 - early 1900's
  • The 20th century and the future

Nôl i'r Llinell Amser

Daeareg - Maes Mwynau Canolbarth Cymru


• Mae Gogledd Ceredigion, Gogledd Orllewin Powys a De Orllewin Gwynedd yn ffurfio rhanbarth lle y ceir nifer o gloddfeydd metel segur, y cyfeirir atynt fel Maes Mwynau Canolbarth Cymru.
• Ffurfiwyd y gwythiennau yn ystod symudiadau'r ddaear a dyddodwyd y mwynau gan hylifau poeth a oedd yn llifo trwy holltau yn y creigiau.
Gwythiennau mwnol

• Nodwyd o leiaf ddeuddeg episod hollti a mwneiddiad.
• Credir bod y mwneiddiad wedi digwydd yn episodaidd rhwng y Cyfnod Deonian (gan ddechrau 408 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a'r Cyfnod Permo-Triasig (250 miliwn o flynyddoedd yn ôl).
• Mae'r gwythiennau'n cael eu cynnal gan greigiau gwaddod morol Paleosöig Is, sydd oddeutu 430 miliwn o flynyddoedd oed.
• Mae'r gwythiennau yn cynnwys mwynau plwm, sinc, arian a chopr yn bennaf, wedi'u cymysgu â cwarts (silica) a chalsiwm, magnesiwm a mwynau carbonad sy'n rhoi haearn.
• Mae'r gwythiennau yn cynnwys cyfansymiau bach o cobalt, nicel, antimoni, arsenig, cadmiwm ac olion aur hefyd.
• Mae pob metel, ac eithrio aur, yn bodoli ar ffurf sylffidau (mwynau sy'n cynnwys metelau wedi'u cyfuno â sylffwr).

Galena

• Mae Galena (chwith) yn fwyn sy'n cynnwys Plwm ac Arian. Mae'n drwm a phan fydd yn cael ei dorri, mae ganddo ymddangosiad metelig o liw llwyd ac arian, sy'n disgleirio yn y golau. Sylffid plwm yw Galena, a'i fformwla cemegol yw PbS. Er bod sylffid plwm pur yn cynnwys 86.6% o blwm, mae'r galena a geir yn y cloddfeydd hyn yn cynnwys cyfansymiau bach niferus o fwynau sylffid eraill ac “amhuredd” pwysig sef arian. Roedd cloddfeydd Canolbarth Cymru yn ffynhonnell arian bwysig, ac yn y cloddfeydd cyfoethocaf, gallai'r galena ddarparu dros 30 owns o arian i bob tunnell o fwyn.



Sphalerite


• Arferai'r cloddwyr alw Sffalerit (dde) yn sinc blend neu "Black Jack". Yn ei gyflwr naturiol, ei liw cyffredin yw brown tywyll. Po fwyaf o haearn sydd ynddo, y tywyllaf ydyw. Sylffid sinc yw Sffalerit neu sinc-blend, gyda'r fformwla ZnS ar gyfer y ffurf pur, sy'n cynnwys 66.94% o sinc. Fodd bynnag, mae'n gyffredin gweld rhywfaint o haearn (2-5% fel arfer) yn bresennol, ac mae sffalerit yn cynnwys cyfansymiau bach o gadmiwm hefyd. Er bod digon ohono yng Nghanolbarth Cymru, dim ond ar ôl y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd ei gloddio o ddifrif, pan welwyd y galw am sinc yn codi ar ôl sefydlu ffordd ymarferol o fwyndoddi'r mwyn. Cyn y cyfnod hwn, roedd yn cael ei waredu gyda'r gwastraff ac mewn rhai cloddfeydd, byddai'n cael ei gasglu â llaw o'r tomennydd ar ôl i hynny ddatblygu i fod yn broses ddichonadwy yn economaidd.


Chalcopyrite



• Mae Calcopyrit (chwith) yn sylffid haearn copr gyda'r fformwla cemegol CuFeS2. Mae'n cynnwys 34.63% o gopr a dyma'r mwyn pwysicaf o'r metel hwn yn y byd. Gallai ei liw melyn euraidd dwyllo rhai mwnchwilwyr amhrofiadol i gredu eu bod wedi darganfod aur! Mae Calcopyrit yn gyffredin yng Nghanolbarth Cymru, ond dim ond mewn nifer cymharol fach o gloddfeydd yr oedd cyfansymiau gweithiadwy ohono i'w gweld, er enghraifft yn ardal Cwmerfyn ac yn yr ardal i'r gogledd o Gronfa Ddðr Nant-y-Moch yng Ngheredigion ac yn Nylife yng Ngogledd Orllewin Powys.





• Roedd y cloddfeydd yn gweithio gwythiennau mwynol a welwyd ar hyd ffawtiau daearegol. Wrth ei gloddio, roedd y graig a fwnyddol yn cael ei malu ac roedd y mwynau trwm yn cael eu gwahanu gan ddefnyddio dðr i olchi'r deunydd gwastraff ysgafnach i ffwrdd.
• Roedd y mwynau o'r mwyn yn cael ei casglu a'u rhoi mewn bagiau fel crynoadau, a oedd yn cael eu gwerthu i ffwrneisi mwyndoddi wedyn.
• Dim ond ar ôl 1845 y cofnodwyd gweithgarwch cynhyrchu mwynau yn fanwl ac nid ydym yn gwybod yr hyn a gynhyrchwyd cyn hynny.
• Cynhyrchwyd dros 450,000 tunnell o grynoadau mwyn plwm a oedd yn cynnwys dros 2,500,000 owns o arian.
• Cynhyrchwyd dros 140,000 tunnell o grynoadau mwyn sinc a dros 8,000 tunnell o grynoadau mwyn copr.
• Yn ogystal, cynhyrchwyd baryt (sylffad bariwm) ac pyrit haearn yn lleol hefyd.
• Heddiw, mae'r cloddfeydd o bwysigrwydd gwyddonol mawr oherwydd eu daeareg, eu mwnoleg a'r planhigion prin sy'n gallu goddef metel ac sy'n tyfu ar y tomenni rwbel.
• Mae meysydd mwynau eraill yng Nghymru a oedd yn adnabyddus am y ffaith eu bod yn cynhyrchu copr ac aur.

Pyromorphite
Linerite










Am wybodaeth mwy manwl gweler wefan John Mason




Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Mwyngloddio Cynnar


Roedd y 'cloddfeydd cyntefig' hyn yn cael eu defnyddio rhwng 2100 ac oddeutu 1600 CC (tua 3600-4100 o flynyddoedd yn ôl), er bod mwyafrif y gweithgarwch yn dyddio'n ôl i oddeutu 1850-1650 CC
Mae mwyafrif y safleoedd cloddio yn ffosydd brig bas neu'n byllau bach a gloddiwyd i frigiadau wyneb rhai o'r gwythiennau mwynol.

Mae'n ymddangos bod y gwaith hwn wedi cael ei wneud mewn ardaloedd lle y mae'r gwythiennau plwm hyn yn cynnwys llawer o fwynau copr. Mae'n ymddangos eu bod wedi bod yn tyrchu copr a chyflenwadau plwm efallai. Er mai ychydig mwy na safleoedd prawf yw nifer o'r safleoedd hyn, roedd rhai megis Twll y mwyn (Darren) a Copa Hill (Cwmystwyth) yn gloddfeydd brig go iawn ac yn cynnwys tystiolaeth o brosesu mwyn, offer ac ymdrechion i ddraenio'r gwaith.


Copa Hill, Cwmystwyth

• Mae Ceredigion yn unigryw oherwydd ei bod yn cynnwys dwysedd mwy o'r 'cloddfeydd cyntefig' hyn a nodweddir gan bresenoldeb mwy o offer cloddio cobl carreg a thystiolaeth o ddefnyddio gosodiad tân nag unrhyw le arall bron yn yr Ynysoedd Prydeinig.
• Mae pedwar o'r deg safle 'cloddio cyntefig' mwyaf adnabyddus hyn wedi cael eu cloddio yn rhannol gan y Grŵp Ymchwil Cloddfeydd Cynnar rhwng 1986 a 2002, ac fe'u dyddiwyd i gyfnod yr Oes Efydd Cynnar (Cloddfa Lancynfelin, Nantyrarian, Tyn y fron (Cwm Rheidol) a Copa Hill (Cwmystwyth)).


Hammer stone


• Nodweddir "mwyngloddiau cyntefig" gan bresennoldeb cerrig crynion (cerrig morthwylio) - a thystiolaeth o ddefnyddio tân.
• Mae'r morthwylion carreg (chwith), a ddarganfuwyd ger Tal-y-bont, yn nodweddiadol o'r rhai a geir mewn niferoedd mawr mewn rhai safleoedd 'cloddio cyntefig' yng Ngheredigion.
• Roedd y rhic, a welir yn eglur ar yr ochr chwith, yn cael ei naddu i mewn i'r garreg gan weithiwr yn y gloddfa tua 4000 o flynyddoedd yn ôl er mwyn helpu i leoli'r croen anifail a charn helyg.
• Gosodwyd darn 10 ceiniog ar y garreg er mwyn rhoi syniad o'i maint






Golchfeydd draenio pren o'r Oes Efydd


• Mae'r gloddfa yn Copa Hill wedi cael ei chloddio gan archeolegwyr dros gyfnod o 16 o flynyddoedd. Mae wedi cynhyrchu tystiolaeth o offer carreg a chyrn carw a dolenni gwden, a darnau o raff a basgedi gwden hefyd, cyfres o olchfeydd draenio pren (cwteri er mwyn cario dðr) a thystiolaeth o falu mwyn copr (calcopyrit) ar gerrig eingion. Mae'r gloddfa dros 10 metr mewn dyfnder a dros 40 metr o hyd..a thynnwyd gwerth dros 5000 tunnell o graig oddi yno. Efallai bod y gloddfa cynhanes wedi cynhyrchu dros 1-2 tunnell o fetel copr, ac efallai rhywfaint o blwm.






• Nid oes unrhyw dystiolaeth o fwyndoddi copr neu blwm yn ystod y cyfnod hwn wedi cael ei darganfod unrhyw le yng nghyffiniau'r cloddfeydd. Mae'n bosibl bod y mwyn a gasglwyd, a falwyd ac a lanhawyd â llaw wedi cael ei fasnachu yn bellach i ffwrdd gan y rhai a oedd yn cloddio yn y cloddfeydd; bugeilwyr i bob pwrpas a oedd wedi symud i'r ardal o'r arfordir yn ystod misoedd yr haf.
• Ni nodwyd unrhyw gloddfeydd copr/plwm Oes Efydd Hwyr neu Oes Haearn yn yr ardal eto, er bod posibiliadau amrywiol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd.
• Mae tystiolaeth o gloddio a mwyndoddi plwm yn ystod y Cyfnod Rhufeinig wedi cael ei ddarganfod yng Nghwmystwyth nawr, ac yn fwy diweddar ger Tal-y-bont yn Erglodd, ar hyd ymyl De Ddwyreiniol Cors Borth. Roedd y plwm o'r safleoedd hyn yn cael ei fwyndoddi mewn ffwrneisi a chwythwyd gan y gwynt neu 'ffwrneisi bôn.'
• Roedd plwm yn cael ei gloddio yn ystod y cyfnod Canoloesol Cynnar yng Nghwmystwyth. Mae olion dyfrffosydd, sianeli a ffwrneisi mwyndoddi plwm wedi cael eu cloddio yma. Efallai bod rhywfaint o'r gwaith hwn wedi cael ei wneud gan fynachod Sistersaidd neu frodyr lleyg o'r Abaty yn Strata Florida.

Gyda diolch i Simon Timberlake, Grŵp Ymchwil Mwyngloddio Hynafol

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Cyfnod Rhufeinig


Effaith filwrol oedd effaith y Rhufeiniaid ar y sir yn bennaf, a oedd yn cynnwys creu llwybr a oedd yn ymestyn o'r gogledd i'r de – Sarn Helen – i gysylltu porthladd Caerfyrddin, y cloddfeydd aur yn Nolaucothi, trwy gaer Llanio ar afon Teifi, i Drawscoed, ac yna i'r gogledd gan groesi afon Dyfi i'r de o Bennal.

Nid oes llawer o'r ffeithiau am weithgarwch diwydiannol y Rhufeiniad yng Ngheredigion yn hysbys er y derbynnir yn gyffredinol bod caffael mwynau yn un o'r prif ffactorau dros oresgyn Prydain. Mae'n synhwyrol tybio y byddai'r Rhufeiniaid wedi bod yn ymwybodol iawn o gyfoeth mwynol canolbarth Cymru ac roeddent yn meddu ar y wybodaeth angenrheidiol i fanteisio arno.

Roedd plwm yn nwydd gwerthfawr iawn i'r Rhufeiniaid, dyma oedd eu “plastig” nhw i bob pwrpas. Roedd yn ddeunydd defnyddiol a hydrin iawn yr oedd modd ei ddefnyddio i wneud toeon, pibellau dðr, cafnau ac ati. Roeddent yn gallu gwneud piwter wrth ei gymysgu gyda thun hefyd.

Yn ogystal, roedd y Rhufeiniaid yn gwybod sut i ddefnyddio ciwpelu i dynnu arian o'r mwyn. Yn gyntaf, er mwyn cael plwm o'r mwyn, roedd yn cael ei fwyndoddi mewn ffwrnais. Ar ôl tynnu'r plwm allan, os byddai'n cynnwys digon o arian gwerthfawr, byddai'n cael ei aildwymo mewn odyn fas arbennig. Os byddent yn defnyddio megin, roedd y Rhufeiniaid yn gwybod y gallent godi'r tymheredd ddigon yn yr odyn i wahanu'r arian o'r plwm.

Cynhaliwyd ymchwiliadau archeolegol yn ardal Cwmystwyth a Llangynfelyn/Talybont sy'n dangos rhywfaint o weithgarwch y Rhufeiniaid. Credir bod llawer o dystiolaeth archeolegol o'r cyfnod hwn wedi cael ei ddinistrio gan waith a wnaethpwyd yno yn ddiweddarach.

Ar ôl eu profi gan ddefnyddio sbectromedreg pelydryn gama, gwelir bod y gwrthrychau plwm a gloddiwyd yn y caer Rhufeinig yn Nhrawscoed, yn rhai lleol, sy'n arwydd o weithgarwch cloddio a phrosesu plwm gan y Rhufeiniaid.

OC48 Y Fyddin Rhufeinig yn cyrraedd Cymru
70'au cynnar OC Credir bod y Fyddin Rhufeinig wedi cyrraedd Ceredigion o'r gwersyll dros dro yn Rhaeadr Gwy trwy Gwmystwyth
OC75 Gwaith yn cael ei wneud yng Nghloddfeydd Aur Dolaucothi ger Llanbedr Pont Steffan
OC150 Y Rhufeiniaid yn gadael Dolaucothi wrth iddo ddatblygu i fod yn fusnes preifat



Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Y Cyfnod Canoloesol Cynnar c410-1066



• Mae tystiolaeth ar gael o fwyngloddio yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Mae'r dogfennau yn awgrymu, fodd bynnag, mai mwyngloddio ar raddfa fechan ydoedd ac mai'r mwyn a oedd yn cynnwys plwm yn hytrach na chopr a fyddai'n cael ei weithio. Nid yw'n glir hyd yn oed heddiw, os oedd ganddynt ddiddordeb yn yr arian o fewn y mwyn.

• Mae arteffactau o'r cyfnod “Celtaidd” honedig yma yn dangos dealltwriaeth o weithio metel sy'n awgrymu bod y bobl gynnar wedi dysgu sut i fwyngloddio a thynnu metelau o'r dyddodion mwyn.

• Nid oes llawer o dystiolaeth o fwyngloddio yng Ngheredigion yn y cyfnod canoloesol cynnar a hynny o bosibl oherwydd maint ac ehangder y gweithfeydd mwyngloddio yn ddiweddarach.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Yr Oesoedd Canol – cyfnod canoloesol, 1066-1485



1164 - Abaty Ystrad Fflur yn cael ei sefydlu'n wreiddiol fel tŷ Cymreig Sistersaidd. Y mynachod yn gweithio ac yn datblygu gweithfeydd mwyn Cwmystwyth a'r Abaty yn berchen ar brydlesi'r gweithfeydd hyd at 1538.

1184 – Dechrau adeiladu Abaty Ystrad Fflur ar ei safle presennol.

1188Giraldus Cambrensia (Gerallt Gymro) ac Archesgob Baldwin yn ymweld â'r Abaty. Yn anffodus, nid yw Gerallt Gymro yn sôn am Gwm Ystwyth yn ei waith – “Hanes y daith drwy Gymru”.

1282- Mae adroddiad yn cyfeirio at bwysigrwydd gwaith mwyn yn Llanbadarn, lle mae breindal y Brenin yn nawfed o'r cynnyrch gyda'r opsiwn i gael y gweddill, wyth rhan o naw, am bris y farchnad, hynny yw 1 swllt a 4 ceiniog am bob “fotmell”. Roedd “fotmell” yn fesur neu'n uned o bwysau o fwyn a oedd yn gywerth â 69 pwys. Byddai llwyth cart, “cartload” yn pwyso tua 1660 pwys, sydd tua 24 o “fotmells”. (Roedd Arglwyddiaeth Llanbadarn Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn ymestyn dros y rhan fwyaf o ogledd Ceredigion, felly gallai gyfeirio at unrhyw un o'r gweithfeydd mwyn yn yr ardal)

1285Abaty Ystrad Fflur yn cael ei ddifrodi gan fellten a thân.

1301 – Mae Cyfrif Swyddwr Gorllewin Cymru yn cyfeirio at oddeutu 3,000 pwys o fwyn yn cael ei werthu yn y flwyddyn 1300. Nid yw wedi'i gofnodi'n bendant pa weithfeydd a fu'n gyfrifol am gynhyrchu'r mwyn.

1401 – Gwrthryfel Owain Glyndŵr – byddin Harri IV yn defnyddio Abaty Ystrad Fflur fel stabl.

1407Abaty Ystrad Fflur unwaith eto'n cael ei ddefnyddio fel barics ar gyfer y milwyr o Loegr a'r mynachod yn gadael yr Abaty.

1485- Y Brenin Harri VII yn estyn y fraint o fod yn Lywodraethwr a Chomisiynydd o'i weithfeydd mwyn yng Nghymru ar Jasper Tudor, Dug Bedford. Maent i dalu breindal, un rhan o bumdeg(1/50) am arian ac aur pur, ynghyd ag un rhan o un ar ddeg(1/11) i “Arglwydd y tir”. Gallant gloddio ble bynnag y mynnant ar wahân i gloddio o dan dai a chestyll y Brenin a'i bobl.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Y Tuduriaid 1485 - 1603




1536 – Deddf Cyfreithiau a Chyfiawnder i'w Gweinyddu yng Nghymru, sy'n cyflwyno cyfraith Lloegr yng Nghymru. Ar ôl 1536, gallai Coron Lloegr hawlio mwynau a fyddai'n darparu arian ac aur ynghyd â chopr, fel brenhinfraint. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd yr hawl i fwynau gan gynnwys arian yn swyddogaeth Arglwyddiaeth.

1556 - cyhoeddir Georgius Agricola De Re Metallica wedi ei farw, ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg gan Hebret Hoover yn y 1920au. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr arferion cloddio yn ystod y cyfnod cynnar, yn enwedig arferion Ewropeaidd a astudiwyd ar gyfer y llyfr. Roedd manylder y prosesau a ddisgrifiwyd ac a ddangoswyd gan dorlun pren yn golygu bod y llyfr hwn wedi parhau yn werslyfr safonol ynghylch cloddio a meteleg am dros ddwy ganrif.

1568 – Profwyd brenhinfraint y Goron i fwyn sy'n darparu metel gwerthfawr yn Achos y Cloddfeydd lle y ffafriwyd y Goron, a rhoddwyd yr hawl hwnnw am byth i Society of Mines Royal.

1583 – Rhoddwyd prydles Cernyw, Dyfnaint a Chymru i Thomas "Customer" Smythe at ddibenion cloddio.

1590's – Yn ôl y sôn, mae cloddfeydd Cymreig yn cynhyrchu 1 tunnell o Arian.

1591 - Thomas Smythe ym marw. Cloddio yn colli momentwm yng Nghymru.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Y Stiwartiaid 1603 - 1714


Gwêl y cyfnod hwn lawer o weithgaredd ar y bryniau ac o dan ddaear Sir Aberteifi. Daw cymeriadau megis Goldsmith i'r amlwg yn ogystal â'r entrepreneur llawn gweledigaeth Syr Hugh Myddelton, Thomas Bushell (oedd dan adain Syr Francis Bacon), Syr Carbery Pryse (Sgweier Gogerddan), perchennog glofeydd Nedd Syr Humphrey Mackworth a'r peiriannydd mwyngloddio William Waller. Gwêl Prydain Ryfel Cartref rhwng y Brenhinwyr a'r Seneddwyr.
Y peth pwysicaf ddigwyddodd ar yr adeg hon oedd yr her a wnaed gan Syr Carberry Pryse i fonopoli'r Gymdeithas Frenhinol Fwyngloddio ar gloddio mwyn drudfawr. Cafwyd newid yn y gyfraith o'r herwydd ac arweiniodd hynny'r ffordd at fwy o fentro preifat.

1617 - Syr Hugh Myddelton yn prydlesu Cwmsymlog a mwynfeydd eraill gan y Goron.
Syr Hugh Myddleton

1625-26 - Myddelton cyn gwneud elw amcangyfrifedig o hanner darn Arian i'r Goron o Gwmsymlog.
1631 - Bu farw Syr Hugh Myddelton. Daw Thomas Bushell yn ddeiliad prydles Cwmsymlog.
1631 - John Vaughan yn prynu prydles Cwmystwyth am £4,300.
canol 1630au - Bushell yn gosod mwynfeydd y Darren a Goginan ar brydles ac yn dechrau ar y gwaith y deuai'n enwog amdano sef agor ceuffyrdd draenio dwfn o dan waelodion gweithfeydd cynharach oedd wedi'u gorlifo.

1639-1642 - Yn niwedd y 1630au, sefydlodd Bushell fathdy yn Aberystwyth i fathu darnau pres o arian a fwyngloddid yn lleol a bu hwn yn weithredol drwy'r 1640au a Rhyfel Cartref Lloegr. Bathwyd tua dwy dunnell o arian a defnyddiwyd £36,000 o'r cyfoeth hwn i ddarparu dillad ar gyfer byddin y Brenin Siarl I.
• Bathu darnau arian yng Nghastell Aberystwyth ar gyfer Siarl I. Gellir adnabod y darnau oherwydd y tair pluen Gymreig arnynt.
• Deuai'r Arian o wahanol fwynfeydd, yn enwedig Cwmsymlog a'r Darren.
1642 Erbyn mis Medi, cynhyrchwyd £10,500 mewn arian breiniol (cyfwerth i 2.5 miliwn o geiniogau.) Symudwyd y bathdy wedyn am gyfnod byr i Ffwrnais.
1646 - Bushell yn dychwelyd i Loegr.
1691 – Cofnodir y defnydd o bowdwr gwn i gloddio mwynau gan William Waller yn ystod ymweliad ag Esgair Hir. Dyma'r dyddiad cyntaf y gwyddys amdano o ddefnyddio powdwr gwn ym mwynfeydd Ceredigion.
Gwaith Goginan

1692 - Syr Carbery Pryse yn cyflogi William Waller a hwnnw'n annog Carbery Pryse i herio monopoli'r Goron.
1693 – Erbyn ail hanner y 17eg ganrif, roedd hawl Coron Lloegr i ariannu mwynau traul wedi'i herio gan Syr Carbery Pryse, gan arwain at Ddeddfau Mwyngloddio Brenhinol 1688 ac 1693 a adferodd hawliau mwynau yn ôl i'r tirfeddianwyr. Yn ôl y sôn teithiodd Carbery Pryse o Lundain i Gogerddan mewn 48 awr i ddod â'r newyddion da adref.
Egyr hyn y ffordd i ddatblygu a mentro personol yn y mwynfeydd.
• Syr Carbery Pryse yn ffurfio cwmni mwyngloddio ond yn marw cyn gweld gwir werth y newid hwn yn y gyfraith.
1697 - Syr Humphrey Mackworth yn prynu'r brydles i Esgair Fraith, a gafodd yr enw yn ddiweddarach, ar y cyd ag Esgair Hir ac Esgair Hir y Pen Gorllewinol, o fod y "Potosi Cymreig".
1697 – Ffurfiwyd cwmni'r 'Governor and Company of Mine Adventurers' drwy brynu cyfranddaliadau gan bartneriaid cwmni Carbery Pryse a chodwyd oddeutu £26,000 (tua £10 miliwn heddiw) o fuddsoddiad cyfalaf drwy loteri. Waller a Mackworth yn hyrwyddo mentro peryglus ac amheus.
• Erbyn hyn roedd Mackworth wedi cael gafael ar brydles Cwmsymlog, Bryn Mawr, Craig y Mwyn (Cwmystwyth), Cyneiniog (Hafan) ac Ystumtuen.
1699 – Ni wireddir adroddiadau hynod frwdfrydig yn sôn am haenau toreithiog. Adenillion gwael ar fuddsoddiadau cyfalaf a'r broblem oedd wastad yno o ddraenio'r llifogydd o'r gweithfeydd dyfnaf yn rhoi straen ar adnoddau'r Cwmni.
1701-2 – Dechreua Waller a Mackworth ar bartneriaeth amheus i ddatblygu Esgair Fraith ymhellach a datblygu glanfa a gwaith mwyndoddi yn Garreg (Glandyfi)] ond nis defnyddiwyd oherwydd cymerwyd hen weithfeydd mwyndoddi'r Goron yn Ffwrnais Dyfi ar brydles.
1704 – Cyhoeddi "Description of the Mines in Cardiganshire" gan Waller. Gweler yr adran Darllen Pellach
• Yr adenillion o Esgair Hir yn lleihau, y fwynfa bron wedi'i dihysbyddu o fwynau. Daw Cwmystwyth, Ystumtuen ac eraill yn brif safleoedd cynhyrchu.
1709 – Diswyddwyd Waller o'r 'Company of Adventurers' a dechreua ar frwydr gyfreithiol hir yn erbyn Mackworth a ddilynnodd ddirwy o £100,000 yn erbyn teulu'r Mackworth.
1710 - Cyhoeddir Mackworth yn euog o arferion twyllodrus ac mae'n colli rheolaeth ar y 'Company of Mine Adventurers'.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Y Cyfnod Sioraidd 1714 - 1837


O bosibl dyma'r cyfnod prysuraf, er y lleiaf cynhyrchiol, yn holl hanes mwyngloddio Ceredigion; a chan fod dogfennau weddol gynhwysfawr a chofnodion newydd yn dod i fei o ganlyniad i fwy o ddiddordeb yn y dreftadaeth Ddiwydiannol, dysgwyd mwy am orchestion a chyflawniadau'r arloeswyr hyn.
Wrth i dechnoleg mwyngloddio wella ac wrth i blwm bellach ennill ei dir fel y nwydd yr oedd galw mawr amdano yn hytrach nag arian, gwelwyd ehangu'r diwydiant mwyngloddio yn y sir.

Er tynnu Syr Humphrey Mackworth o'r 'Company of Mine Adventurers' ni ddaeth gweithgareddau'r cwmni i ben, er y cwtogwyd ar ei gynhyrchu. Ond ar ôl cyfnod o gynhyrchu digon dilewyrch, cafwyd dau ddarganfyddiad mawr a ailysgogodd ddiddordeb ym mryniau Sir Aberteifi – a denu sylw'r Goron.

Ac felly y dechreuodd cyfnod Lewis Morris, Chauncey Townsend, Thomas Bonsall a John Probert.

1715 – Cwmsymlog a Ceiniog (Havan)
1720 – Mackworth yn adennill rheolaeth ar y cwmni gan fynd i'r gyfraith yn erbyn Waller unwaith eto
1721 – bu farw William Waller a chymera Charles ei fab yr awenau ac unwaith eto tynnir rheolaeth y cwmni oddi wrth Mackworth
1722 – y cwmni'n gwerthu'r rhan fwyaf o'u safleoedd heblaw am fwynfeydd Ystad Gogerddan.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae'r mwyngloddio'n parhau ar raddfa fechan a'r mwynfeydd ym Mhengraig Ddu, Cwmystwyth, Goginan, Ystrad Fflur ac Ystumtuen dan ofal Thomas Pryse (Gogerddan), teulu'r Stedman a'r Arglwyddes Campbell ymysg eraill.

Pengraig Ddu

Gweithiwyd ar rai safleoedd llai bob yn hyn a hyn gan ffermwyr/mwynwyr lleol a rhoddid caniatâd i rai ohonynt i ailweithio tomenni sbwriel yng Nghwmsymlog. Caniatawyd iddynt weithio felly ar yr amod eu bod yn gwerthu'r mwyn i'r Tirfeddianwyr am £4 y dunnell, er bod cyfradd y farchnad yn agosach at £7 neu £8 y dunnell. Mae'r dogfennau am y gwaith ad-hoc hwn yn wael iawn a'n gwybodaeth o'r cynhyrchu ar yr adeg hon yn llawn bylchau.

1730au – daw tro ar fyd yn hen fwynfa'r Darren – a oedd i bob diben wedi bod yn segur ers canol y 1600au – pan ddarganfyddir gwythïen newydd a sylweddol sy'n hynod gyfoethog o arian, a'r mwyn yn werth tua £20 y dunnell. Bu i ddarganfyddiad o'r fath aildanio diddordeb hapfuddsoddwyr a dechreuodd cwmnïoedd o Sir y Fflint a Swydd Amwythig gloddio yn y mwynfeydd.

1737 – Derbynia'r Morlys gynnig Lewis Morris i lunio arolwg o arfordir Cymru, gwaith a gwblhawyd yn 1744 a'i gyhoeddi yn 1748 fel Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St. George's Channel.

1742 – Ceir darganfyddiad sylweddol arall ym mwynfa Bwlchgwyn ger Ystumtuen, mwynfa a weithir gan deulu dylanwadol Powell, Nanteos.
Bwlch Gwyn


Anfantais y darganfyddiadau hyn oedd ailennyn diddordeb y Trysorlys hefyd yng nghyfoeth y mwynau a dynnwyd o'r mwynfeydd ar eu tir – yr Hen Darren yn un ohonynt. I gefnogi'r hawl hwn penoda'r Trysorlys Edmund Moore yn ddeiliwr prydles “mwynfeydd y Goron ym maenor Cwmwd y Perfedd”, gan gynnwys yr Hen Darren a Bwlchgwyn. Nid yw'n synod bod adhawlio breindaliadau o fwynfeydd tir y Goron yn amhoblogaidd iawn gan dirfeddianwyr Cymru a bu dipyn o gynnen.

1744 – Mewn ymateb i'r anghydfod hwn, cyhoedda'r Goron warant i'r Cymro Cymraeg a'r tirfesurydd profiadol a'r peiriannydd mwyngloddio Lewis Morris i lunio arolwg a chynllun cywir o “faenor y Goron yng Nghwmwd y Perfedd” er mwyn gosod terfynau rhwng eiddo'r Goron a'r Tirfeddiannwr.

1744 - Cyfeiriodd Lewis Morris am y tro cyntaf am fwyngloddiau Nantglas a Rhiwrugos. Ryw 100 mlynedd yn ddiweddarach daw'r mwyngloddiau yn adnybydddus fel "Mwyngloddiau Unedig y Rheidol."

1745 – cwyna Morris mewn llythyr bod Thomas Powell Nanteos a Thomas Pryse Gogerddan, dau dirfeddiannwr lleol dylanwadol iawn, yn llesteirio'i arolwg yn fawr.

1746 - William Corbett (stiward maenorydd y Goron yn Sir Aberteifi) yn penodi Lewis Morris fel “Dirprwy Stiward mwynfeydd y Goron yn Sir Aberteifi”. Roedd Corbett erbyn hyn hefyd yn prydlesu'r holl fwynfeydd yn “niffeithdir maenor Cwmwd y Perfedd” a olygai bod Lewis Morris yn gweithio i'r Goron ac i Corbett ill dau mewn swyddogaethau gwahanol.1747 – Cloddir am blwm yng Ngheinewydd ar arfordir Sir Aberteifi. Daw'r fwynfa hon yn y man i'w galw yn “Wheal Neptune Mining Company”
1748 - daw John Paynter, rheolwr Cwmsymlog o dan William Corbett o hyd i wythïen newydd yn llawn arian drwy ailagor siafft gynharach. Mae'n werth nodi y talwyd yr holl freindal i Ystad Gogerddan, er ei bod ar dir y Goron. • 1750au - Mae Henry Bowdler yn cymryd drosodd y gweithfeydd mwyndoddi yn Garreg ac yn gweithio'r mwynfeydd yn Allt y Crib (Talybont), Esgair Hir a'r Ynys (Llancynfelin).1751Lewis Morris yn is-osod Esgair-y-Mwyn ym maenor gyfagos Myfenydd i garfan o fwyngloddwyr ar ôl darganfod mwyn yno. Daw yn bartner ei hun yno.
Esgair Mwyn

1752 – Penodir Morris yn asiant ac Arolygydd Esgair-y-Mwyn ac unrhyw fwynfeydd eraill y daw o hyd iddynt yn niffeithwch a thiroedd comin maenorydd y Goron. Gwrthoda'r Parch. Dr William Powell Nanteos (brawd Thomas Powell, uchod) hyn gan hawlio bod Esgair-y-Mwyn ar dir preifat ac nid ar dir y Goron.
1753 – 15 Gorffennaf, dogfennir bod dau Ustus (un ohonynt yr enwog Herbert Lloyd Ffynnon-bedr oedd yn hoff o'i bistol) gyda'r Parch. Dr William Powell ac Arglwydd Lisburne (o Ystadau Lisburne) a byddin fechan o labrwyr wedi llwyddo i gymryd Esgair-y-Mwyn trwy rym. Caiff Lewis Morris ei arestio a'i roi yng ngharchar Aberteifi ond fe'i rhyddheir maes o alw ar fechnïaeth.
1754 – Parhau mae'r anghydfod ynghylch Esgair-y-Mwyn, sy'n codi cwestiynau ynghylch cywirdeb adroddiadau a chyfrifon Lewis Morris yn ystod ei gyfnod fel asiant ac arolygydd mwynfeydd y Goron.
1756 – Diswyddir Morris o'i ddyletswyddau swyddogol ac ymddeola o gloddio, gan fynd ati i ysgrifennu am hynafiaethau.
1757 – Daw'r anghydfod ynghylch Esgair-y-Mwyn i ben a phenoda'r Goron Iarll Powys fel deiliad y brydles.
1765 – bu farw Lewis Morris a'i gladdu yn Eglwys Llanbadarn Fawr. Mae plac coffa iddo i'w weld yno yn y côr.
1769 – Dechreua John Probert, ar y cyd ag Arglwydd Powys a Thomas Johnnes (o'r Hafod) waith mwyngloddio ym mwynfa Faichance (Ffair-Rhos.)
1774 – Mae llawer o'r mwynfeydd yng ngogledd y sir yn segur ar hyn o bryd.
1785 – Mae Thomas Bonsall – peiriannydd mwyngloddio o Bakewell, Derbyshire – yn prysur ddatblygu i fod y prif ffigwr yn y diwydiant mwyngloddio yn Sir Aberteifi gan weithio mwy na 15 mwynfa yn rhan ddeheuol yr ardal mwyngloddio.
1785 – Mae Thomas Bonsall yn llwyddo i godi swm mawr o Fwyn Sinc a'i werthu am £4 y dunnell, rhywbeth sy'n anarferol yn y cyfnod hwn. Daw hyn o weithfeydd mwyn Nanteos sydd wedi'i lleoli yn Nyffryn Castell, Tyn y fron, Ffrwd-ddu a mwyngloddiau Cwm Rheidol sef Nantglas a Rhiwrugos.
Cwm Rheidol

1785 - Gosoda John Probert a'r rheolwr mwyngloddio James Lowe y peiriant pwmpio-pwysedd dŵr cyntaf yn Sir Aberteifi ym mwynfa Fairchance (ger Pontrhydfendigaid). Wedi'i adeiladu gan W.M.Cole o Lambeth, bu'n hynod annibynadwy ac fe gymerodd 5 mlynedd i'w ailadeiladu i weithio'n ddibynadwy. Daeth masnachu i ben yn y fwynfa yn 1791!
1790au – Mae John Probert yn awr yn rheoli'r rhan fwyaf o'r mwynfeydd toreithiog gan gynnwys Logau-Las, Esgair Mwyn, a Grogwynion. Mae'n agor dwy fwynfa newydd yn Frongoch /Llwynwnwch ond mae pris gwael ar y mwyn yn atal datblygu haenau llawn mwyn. Mae llwyddiant dyfodol Probert a'i Gwmni yn ddyledus iawn i Job Sheldon
1799 – 1815 – achosa Rhyfeloedd Napoleon i brisiau mwynau fod yn anwadal tu hwnt gan achosi cwymp cyffredinol yn hanes mwyngloddio. Amrywia prisiau'r mwynau o £10 y dunnell yn 1800 i £20 y dunnell yn 1813 ond bu cynnydd yng nghostau cynhyrchu a chludiant.
1800 – Mae Job Sheldon yn cymryd drosodd rheolaeth Cwmni Probert, sy'n dal i ddwyn elw mewn amser digon caled fel arall. Mae'n cadw'i weithlu drwy fwyngloddio am fwyn sinc (Black Jack neu Blende).
1811 – Daw Cwmystwyth yn un o'r mwynfeydd mwyaf cynhyrchiol yn sgil darganfyddiad cyfoethog ym Mryn Copa
1813 – Adroddir bod Cwmsymlog yn cyflogi 300 o fwyngloddwyr o dan gyfarwyddyd Sheldon
1822 - Caiff Cwmystwyth a mwynfeydd eraill Nanteos eu prydlesu i ddau frawd o Swydd Efrog, sef Syr George a Thomas Alderson, sy'n dod â'u mwyngloddwyr a'u mwyndoddwyr eu hunain o Swydd Efrog. Maent yn darganfod gwythïen gyfoethog yng Nghwmystwyth sy'n werth mwy na 5000 tunnell o fwyn y flwyddyn.
1824 - James Raw yn dod yn Gapten ar Waith Mwyn Cwmystwyth o dan gyfarwyddyd y Brodyr Alderson. Mae'n parhau'n Gapten hyd nes ei farwolaeth yn 1864.
1824 – Gweithia mwyngloddwyr o Gernyw yn y mwynfeydd ar ystadau Trawscoed a Gogerddan
1825Prydain yw prif gynhyrchwyr plwm yn y byd yr adeg hon. Yn anffodus, mae'r llwyddiant hwn yn peri i wledydd eraill chwilio am blwm – y deunydd newydd y mae galw mawr amdano a phlastig y cyfnod hwnnw. Darganfyddir cronfeydd mwyn mawr ac mae diwydiannau cloddio mawr yn cychwyn yn Sbaen, Gogledd America ac Awstralia. Yn y pen draw, bydd y gystadleuaeth hon, a gymhlethir gan ffactorau eraill, yn gloch angladd y diwydiant cloddio plwm Prydeinig.1825 – Mae mwyn plwm yn £25 y dunnell.
1826 – Rhwng Tachwedd 1826 a Mawrth 1827 cwyd y brodyr Alderson yn ôl y sôn fwy na 13,000 tunnell o fwyn o Gwmystwyth. Agorant waith mwyndoddi ym Mhontarfynach a hwn fyddai'r ymdrech olaf ar raddfa eang i fwyndoddi'n fasnachol yn y sir.
1831Mwyn plwm yn awr yn £13 y dunnell yn unig o ganlyniad i blwm a fewnforiwyd yn boddi'r farchnad.
1833 - Disgrifwyd Samuel Morris yn ei "Eiriadur Topograffaidd o Gymru" bod gan Cwm Rheidol "nifer eang o fwyngloddiau sy'n cyflogi ran helaeth o'r 649 o'r preswyliwyr."
1834 – Pryna Lewis Pugh, dyn busnes o Aberystwyth, y brydles i Gwmystwyth ar ôl i'r brodyr Alderson gael eu dyfarnu'n fethdalwyr yn sgil eu ffordd beryglus o wneud busnes. Daw hyn â chyfoeth mawr iddo wrth iddo brynu swm mawr o fwyn heb ei werthu am £5 y dunnell. Mae hyn, a chynnydd damweiniol ym mhris y mwyn, yn rhoi'r moethusrwydd iddo allu gwerthu pan fo'r pris yn uchel. Cwyd fwy na 11,000 tunnell o fwyn dros y 10 mlynedd nesaf gan dalu mwy na £20,000 o freindaliadau i deulu Powell Nanteos yn unig.
1834 – Daw John Taylor, y peiriannydd mwyngloddio o Gernyw, i Sir Aberteifi i gymryd prydlesi mwynfeydd Gogerddan, Trawscoed a ffurfwyd Cwmni Mwyngloddiau Lisburne.
1837 – Patent yn cael ei godi ar lenni Haearn Galfanedig neu lenni Haearn Galfanedig Rhychiog. Gwneir hyn drwy osod llenni o haearn i mewn i sinc poeth iawn. Mae'r galw mawr am y defnydd newydd yn annog y mwynwyr i chwilio am fwyn Sinc nad oedd wedi cael ei chwilota o'r blaen, (hefyd yn cael ei alw'n 'Blend' neu 'Blacjac'). Mae hyn yn achub ac yn adfywio'r diwydiant.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

Yr Oes Ddiwydiannol

1837 – 1900'au cynnar

Dyma oes aur mwyngloddio yng Ngheredigion. Yn gyffredinol, credir i'r oes 'aur' hyn ddigwydd tua chanol yr 1870'au, er i wahanol weithfeydd mwyn brofi anterth cynhyrchu ar adegau gwahanol.

Daw diwedd ar fwyngloddio metel o safbwynt ymarferoldeb masnachol hefyd yn y rhan hon o Gymru.

Cawn lawer mwy o wybodaeth am y diwydiant yn y cyfnod hwn oherwydd iddynt gadw cofnodion mwy manwl ac o ganlyniad i'r adroddiadau yn y 'Mining Journal' a chyhoeddiadau eraill. Mae'r wybodaeth yn medru bod yn ddiddorol iawn yn enwedig os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc ond mae llawer gormod o wybodaeth ar gael i'w atgynhyrchu yma. Gweler yr adran 'Darllen Pellach' os am restr o awgrymiadau ynglŷn â ffynonellau gwybodaeth.

Roedd teulu Powell o Nanteos yn mynnu breindal o un rhan o saith o werth y mwyn, un o'r cyfraddau uchaf yn y sir. Roedd hyn wedi gwneud Cwmystwyth a'r gweithfeydd eraill a oedd yng ngofal Nanteos yn amhoblogaidd gyda'r hyrwyddwyr. Golygai hyn fod cyfnodau hir lle byddai'r gweithfeydd yn segur. Byddai hyn yn achos pryder i deuluoedd a oedd yn ddibynnol ar fwyngloddio, yn enwedig y teuluoedd a oedd yn byw yng Nghwmystwyth. Yn 1845, gostyngwyd y breindal ac o ganlyniad daeth y gweithfeydd mwyn yn fwy atyniadol i'r hyrwyddwyr unwaith eto.

Roedd dylanwad John Taylor a'i feibion, ynghyd â'r Capteiniaid a weithiau iddo, yn fawr ar weithfeydd mwyn Ceredigion, yn enwedig ar weithfeydd Cwmystwyth a gweithfeydd Lisburne. Maent yn enwog am fuddsoddi arian mawr yn eu gweithfeydd, am gomisiynu adeiladu lefelau hir er mwyn tynnu dŵr o'r gweithfeydd a buddsoddi er mwyn cyrraedd gwythiennau mwyn newydd. Roeddynt yn gyfrifol am adeiladu cronfeydd dŵr newydd a systemau dyfrffos estynedig er mwyn cyflenwi dŵr i droi'r olwynion dŵr yn eu gweithfeydd. Roeddynt yn deall yr angen i gynllunio'n synhwyrol a'r angen i wneud arolwg manwl o'r gweithfeydd cyn dechrau ar y gwaith. Roeddynt hefyd yn deall graddfa economi ac roeddynt gyda'r cyntaf i adeiladu gweithfeydd prosesu'r mwyn gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a hynny mewn lleoliadau strategol yn hytrach nag ym mhob gwaith mwyn. Roeddynt hefyd yn buddsoddi arian mewn barics, er mwyn sicrhau llety da ac amodau rhesymol i'w gweithwyr, wrth iddynt weithio i ffwrdd o'u cartrefi mewn mannau anghysbell. Roedd cwmnïau John Taylor yn ymdrechu'n galed i drin eu gweithwyr yn dda drwy eu talu yn rheolaidd, drwy gynllunio medrus a thrwy ddarparu gwaith rheolaidd.

Er gwaethaf hyn oll, byddent o bryd i'w gilydd yn cael eu beirniadu. Dywed adroddiad cyfoes yn y cylchgrawn mwyngloddio:

“…. Witness Cwmystwyth, a mine which in the time of Mr Lewis Pugh with the then machinery was able to dress 120 tons of ore a month and make a profit of £10,000 per annum. But with the present and additional outlay of £3,000 in machinery and sundry expenses dresses now only 70 tons a month and gives a profit of very limited description.”

Amcangyfrifir bod cwmnïau Taylor, rhwng 1834 ac1893 wedi codi dros 107,000 tunnell o fwyn plwm a 50,000 o fwyn Sinc (blend) a oedd yn werth dros £1.1 miliwn ar yr adeg hynny.

Roedd twf sydyn yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ystod y cyfnod diwydiannol wedi creu'r galw mawr am blwm. Roedd angen 'treuliau plwm' ar longau, cerbydau a pheiriannau newydd a oedd yn cael eu dyfeisio yn ogystal â phibau glaw ar dai. Roedd angen system garthffosiaeth ar drefi er mwyn sicrhau glanweithdra a phlwm oedd defnydd y dydd, fel y mae plastig heddiw.

Cronoleg fer:

1840 – Mae John Taylor a'i feibion yn ennill prydles gweithfeydd mwyn Erglodd a Phenbontpren yn Nhalybont ond nid ydynt yn cael fawr o lwyddiant – mae'r 'hen lanciau'(mwynwyr cynharach) wedi cloddio'r cyfan!
John Taylor

1840 - Derbynwyd Mathew Francis, capten mwynglawdd a weithiwr i John Taylor, lythyr gan mwyndoddwr o Lanelli, Robert Dunkin, yn cynnig uno gweithfeydd mwyn Nantglas a Rhiwrugos yng Nghwmni Rheidol gyda mwynglawdd Llywernog ym Mhonterwyd. Felly dechreuodd saga "Mwyngloddiau Unedig y Rheidol."
canol yr 1840'au - Tua'r amser hyn mae'r galw am blwm yn cyrraedd pegwn ac mae mwyafrif o'r gweithfeydd mwyn yng nghanolbarth Cymru yn brysur iawn. Mae hyn yn dod â chynnydd mewn chwilota a hapfuddsoddiadau gan ddenu dylifiad o fwynwyr o ardaloedd eraill - yn enwedig Cernyw, Swydd Derby a Swydd Efrog.
1843 – John Horridge, yn fuddsoddwr annibynnol, yn darganfod dyddodion sylweddol o fwyn yng ngwaith mwyn Cwmsebon neu 'South Darren'. Mae'n buddsoddi mewn system ddyfrffos newydd ac mewn olwyn ddŵr 60 troedfedd o uchder. Mae'r gwaith mwyn hwn - o dan nifer o berchnogion - yn cynhyrchu 2888 tunnell o gopr (sef yr elw fwyaf yng nganolbarth Cymru), 9248 tunnell o fwyn ac 173,527 owns o arian rhwng 1845 ac 1895.
1843,44 - Mae rheolaeth Mwyngloddiau Unedig y Rheidol nawr yn nwylo J.H.Shiers, sef daliwr prydles gwreiddiol Llywernog a dechreuwyd masnachu fel Cwmni Mwyngloddio Llywernog.
1844 – Mae Abel Gower & Gregory Walters yn cymryd prydles Cwmystwyth ac yn apwyntio Matthew Francis, peiriannydd mwyngloddio profiadol o Gernyw, fel rheolwr gyda James Raw. Mae'r cwmni yn dechrau ar y gwaith o adeiladu'r “New Engine Shafft” ond araf yw'r cynnydd.
1845 - Ar ôl ychydig o lwyddiant gwerthwyd J.H. Shiers prydlesau Nantglas a Rhiwrugos i Abel Gower.
1847 - Hysbysebwyd Cwmsebon ar werth a maw cynhyrchiad yn cwympo dros y blynyddoedd nesa oherwydd llai o fuddsoddiad.
1848 – Mae John Taylor a'i Feibion, ynghyd â James Raw fel partner, yn cymryd y brydles oddi wrth Gower & Seale. Daw'r “New Engine Shafft ”yn fwy adnabyddus fel “Siafft Francis”. Oherwydd yr anghydfod rhwng Francis a Taylor, penderfynir ailenwi'r siafft yn “Kings Side Shaft” (o bosibl oherwydd ei lleoliad ger Tir y Goron). Yn ddiweddarach, daeth yn adnabyddus fel siafft “Kingside”. Mae Abel Gower yn parhau i fod yn gyfranddaliwr hyd nes ei farwolaeth yn 1861.
1848 - Collwyd Abel Gower reolaeth ar gyfrannog y busnes gyda'r mwyafrif yn trosglwyddo i John Taylor. Dyw Nantglas a Rhiwrugos ddim yn cael eu cynnwys ac yn troi'n annibynol.
1848 – Mae pris o £45,000 yn cael ei roi ar weithfeydd mwyn Lisburne ac maent yn dangos elw dros £7,000.
1850 - Er mwyn rhoi syniad o'r hyder a oedd yn y diwydiant mwyngloddio yn y cyfnod hwn, roedd cyfranddaliadau blaenorol gwaith mwyn Goginan, yn werth £5 (dan reolaeth Taylor), yn awr werth £250 yr un. Roedd cyfranddaliadau gweithfeydd mwyn Lisburne a oedd yn £75, yn awr yn werth £600 yr un. Mae cofnod ar gael o weithfeydd Lisburne yn talu dros £90,000 mewn cyflogau i weithwyr y gweithfeydd mwyn, i fasnachwyr ac i isgontractwyr.
Heol Pontrhydygroes yn y Gwanwyn


Er bod adroddiadau o'r cwmnïau mwyngloddio mawr yn edrych yn iachus, roedd pethau ychydig yn wahanol mewn realiti:

1852 – Mae pethau yn gwaethygu i John Horridge ac mae cynhyrchu yn dod i ben. Mae'r olwyn ddŵr anferth, 60 troedfedd o uchder, yng Ngwmsebon/South Darren yn cwympo.
1853 - Mae Cwmni Mwyngloddio Unedig Rheidol yn dechrau ail-weithio mwyngloddiau Nantglas a Rhiwrugos o dan arolygiad Mathew Francis gyda William Grieves fel capten y mwynglawdd.
1854 - Mae Mr Williams Grieves yn cyfarfod yr awdur George Borrow sydd ar ei
daith hanesyddol o Gymru. Sonir am y cyfarfod yng ngwaith arloesol Borrow
"Wild Wales".
1855 – Disgrifir gwaith mwyn Cwmsebon/South Darren “ac ôl traul arno”, fodd bynnag mae buddsoddiad pellach yn caniatáu i'r gwaith barhau.
1855 - Mae Cwmni Mwynfeydd Unedig Rheidol yn awr yn prydlesu mwynfeydd Allt
ddu, Gwaithgoch a Llwybrllwynog o ystad Nanteos ac ynghyd â Nantglas a
Rhiwrugos mae'n parhau i gynhyrchu o dan Gwmni Mwynfeydd Unedig Rheidol.
Gosodwyd y breindal i Ystad Nanteos fel un rhan o ddeg o werth y mwyn, a
oedd wedi gostwng i un rhan mewn pump ar hugain 10 mlynedd yn ddiweddarch
oherwydd enillion gwael.
1855 - Ar ôl ymgyrch am fuddsoddiad pellach, mae gwaith yn dechrau ar olwyn 60 troedfedd yng Nghwmsebon.
1857 –Allan o'r 60 o weithfeydd mwyn swyddogol a nifer o weithfeydd mân, 10 safle yn unig oedd yn cynhyrchu dros 200 tunnell o fwyn gan gynnwys: Logau-Las, Cwmsymlog/East Darren, Frongoch, Glogfach a Chwmystwyth.
1864Capten James Raw yn marw ar ôl treulio 40 mlynedd yn gweithio yng ngweithfeydd mwyn Cwmystwyth ac mae Samuel Kendall yn cymryd ei le.
1871 - Ar ôl cyfnod o ansicrwydd cymerwyd drosodd prydlesi Cwmni Mwyngloddiau Unedig Rheidol gan gwmni newydd sef "Silver Hill Consols Mine" gan gyfuno nifer o fwyngloddiau yn yr ardal o dan nifer o berchnogion gwahanol. Gwarantir rhaglen o hapfuddsoddi a chodi arian gan Absalon Francis ac eraill.
1872 - Trefnir cytundebau i osod 17 o weithfeydd mwyn Gogerddan i'r mwynwyr.
1872 – 1874 – Mae profion cynnar yn dechrau yng ngwaith mwyn Bwlch Glas ger Talybont.
1873 Mae'r "Silver Hill Consols Mine" yn newid ei enw i "Fwyngloddiau Plwm y Rheidol," serch hynny yr un unigolion sy'n gysylltiedig. John Ridge yw'r rheolwr a maen al y swydd tan 1877.
1876 – Mae'r cynnyrch a ddaw o weithfeydd mwyn Cwmystwyth yn isel iawn.
John Kitto

1878 - Mae mwynglawdd Frongoch hyd yr amser hyn wedi bod yn llwyddiannus a dychwelwyd gwerth £500,000 o fwyn plwm ond sydd wedyn yn brwydro i ddwyn elw. Mae prydles yn cael ei gymryd fyny gan gwmni mwyngloddio Frongoch gyda John Kitto fel rheolwr. Yn ystod y 20 mlynedd nesaf gwobrwyd y mwynglawdd gyda buddsoddiad ychwanegol gyda gwerth miloedd o fwyn plwm (Galena) a mwyn zinc (Blend).
1879Gweithfeydd Lisburne a Grogwynion yw'r unig weithfeydd mwyn yng Ngheredigion sydd ar y rhestr rhandaliadau.
1880 – Mae J B Rowse yn cael ei wneud yn Gapten yng Nghwmystwyth ac yn ystod y cyfnod mae'r “Graigfawr” yn disgyn i'r “Bonsalls Old Stope”.
1885 – Mae Taylor a'i gwmni yn cyhoeddi eu bod yn cau gwaith mwyn Cwmystwyth, ond mae'n parhau i weithio o dan yr enw ' The Cwmystwyth Company' (gyda theulu Taylor yn parhau i reoli) – a chyda J B Rowse yn Gapten.
1886 – Mae Cwmystwyth yn brwydro trwy gyfnod o fethiannau adeiladwaith a mecanyddol ac yn gwneud ond ychydig o elw. Mae Taylor a'i feibion yn ffurfio ail gwmni o'r enw “ The Kingside Mining Company” ac yn parhau i weithio o dan y ddau enw am y 10 mlynedd nesaf. Mae “Siafft Taylor”, sy'n siafft fecanyddol iawn, yn cael ei suddo er mwyn ailagor hen wythiennau a weithiwyd o'r blaen, gyda rhywfaint o lwyddiant.
1886 - Dechreuodd ddadl dros hawliau dŵr rhwng mwyngloddiau Unedig Rheidol a'i gymydog annibynnol y mwynglawdd gothic. Aeth hwn ymlaen am 5 mlynedd.
1888 – Mae'r gweithgarwch yn cynyddu yng ngwaith mwyn Bwlch Glas, yn Nhalybont. Mae Edward Evans yn cyflogi gwasanaethau chwilotwyr. Caiff y cynigion eu hanfon at Gapteiniaid Gweithfeydd Mwyn parchus ac amlwg yr ardal.
1890's – Mae pris mwyn plwm yn disgyn i oddeutu £6 y dunnell ac mae nifer o'r gweithfeydd mwyn yn canolbwyntio ar fwyn Sinc sydd, er yn rhatach mewn pris (tua £4 y dunnell), yn haws i'w fwyngloddio ar raddfa fawr.
1890'au - Ar ôl dros 100 mlynedd o gynhyrchu mwyn mae mwynglawdd Esgairmwyn yn dod i feddiant Thomas Ward o Sheffield i'm chwalu. Er hynny yn lle chwalu'r safle mae Ward yn dechrau gweithio'r mwynglawdd ac yn codi miloedd o dunellu o fwyn cyn bod y mwynglawdd yn cau yn 1927.
1893 – Mae'r 'Cwmystwyth Company' yn cael ei ddiddymu ac mae'r cynhyrchu yn dod i ben ar y safle hyd nes 1900.
1893 – Mae Taylor a'i feibion yn gadael Ceredigion ar ôl cael llwyddiant yn rheoli gweithfeydd mwyn Lisburne rhwng 1839 ac 1893.
1897 - Dechreuodd Henry Gammon drafodaethau â stâd Nanteos am brydles newydd ar fwynfeydd Gwmystwyth.

Nôl i'r Llinell Amser

Nôl i'r Llinell Amser

20fed Ganrif a'r dyfodol


Erbyn troad y ganrif, roedd y diwydiant mwyngloddio metal yng Ngheredigion yn tynnu tua'i derfyn. Roedd ffactorau megis gostyngiadau ym mhrisiau plwm a phlwm rhatach o dramor yn golygu nad oedd gweithfeydd lleol yn economaidd.

Golygai codiad yng nghyflogau gweithwyr amaethyddol yn ystod y 1920au bod yn rhaid i gapteiniaid gweithfeydd roi tâl uwch i fwyngloddwyr, gan eu bod hwy'n draddodiadol wedi derbyn cyflog uwch na'u cymheiriaid amaethyddol ac roedd y mwynwyr wedi elwa o gymhorthdal yn ystod cyfnod y Rhyfel Mawr.

Roedd y mwynfeydd yn dal i weithio serch hynny, ac roedd llawer o bobl yn dal i weithio mewn gweithfeydd mwyngloddio neu o'u cwmpas – yr olaf o fwyngloddwyr Sir Aberteifi.
Atgofion y bobl hyn, y rhai a weithiai ar droad y ganrif y gellir dod o hyd iddynt heddiw – er drwy atgofion eu teuluoedd efallai.

1900 – Caiff Mwynfeydd Uned Rheidol eu gwerthu gan Ystad Nanteos fel rhannau unigol. Ceidw'r Ystad yr hawliau i'r mwynau.
1900 – mae Cwmni Mwyngloddio Cwmystwyth Cyfyngedig yn cymryd drosodd gweithfeydd Cwmystwyth dan reolaeth Henry Gamman yn sgil trafodaethau llwyddiannus a ddechreuodd yn 1897. Roedd Gamman yn berson lliwgar iawn ac yn adnabyddus am rannu ei lwyddiannau drwy gynnal partïon i'w staff pan ddarganfyddid mwyn da, ac yn enwog am y partïon Nadolig y cynhaliai ar gyfer teuluoedd ei staff – ac am adeiladu cwrt tennis i'w ferch Isabell ar domenni Kingside.
1901 – prynir tir gan berchnogion mwynfeydd ar gyfer rheilffordd newydd Cwm Rheidol, fydd yn ailfywiogi rhan o gyn-fwynfeydd cloddio Rheidol United.
1902 – Mae Cwmni Rheilffordd Cwm Rheidol yn agor i wasanaethu mwynfeydd cwm Rheidol yn ogystal â'r mwynfeydd yng Nghwmystwyth, Ystumtuen a Dyffryn Castell.
1905 – Ailffurfir Cwmni Mwyngloddio Cwmystwyth o dan Kingside Zinc Blende Co. Ltd, a Gamman yn dal wrth y llyw.
Cwmerfin mine circa 1906

1907 – Aiff prydles Glogfawr i'r Lisburne Development Syndicate, a chyda R.R. Nantcarrow yn Rheolwr codir sawl tunnell o fwyn cyn cau yn 1920.
1909 – Mae Henry Gamman bellach wedi defnyddio ei holl gyfalaf i ariannu gwaith yng Nghwmystwyth. Brunner Mond & Co sy'n gweithio'r fwynfa tan 1911 gyda Gamman yn bartner.
1910 – mwyngloddio yn awr bron â bod wedi peidio yn Frongoch.
1911 – ar ôl ailweithio rhannau o'r fwynfa oedd wedi'u gadael yn y gorffennol, mae Mond & Co yn ildio'r brydles i gwmni newydd ei sefydlu, sef King Side Mining Co Ltd.
1912 – ar ôl cyfnod gwael, aiff prydles mwynfa Pugh o King Side Mining Co Ltd i gwmni arall newydd ei sefydlu, sef May Mining Company.
1914-1918 – mae'r Rhyfel Mawr yn cynyddu'r galw am blwm ac mae rhai mwynfeydd yn gynhyrchiol unwaith eto.
Gwaithcoch

1914-1920au – defnyddir arian gan y llywodraeth i ddechrau cynllun i ailweithio'r tomenni gwastraff ger Pont-rhyd-y-groes. Codwyd melin falu yng Ngwaith Goch a'r bwriad oedd cludo gwastraff â rhaffordd awyr am tua dwy filltir o Frongoch. Roedd y rhaffordd i'w gyrru gan olwyn Pelton oedd wedi'i lleoli yng ngwaith Frongoch. Ar ôl y rhyfel, cwblhaodd y Welsh Mines Corporation y cynllun, gan brosesu tunelli lawer o wastraff cyn i'r gostyngiad ym mhris metal wneud y cynllun yn aneconomaidd.
1915 – King Side Mining Co Ltd yn cau.
1916 – May Mining Company ond cwmni newydd, Cwm Ystwyth Mines Ltd yn cael Howell Evans yn rheolwr.
1919 – Sefydlir y cwmni Welsh Mines Corporation i weithio mwynfeydd Lisburne.
1922 – Mae Cwm Ystwyth Mines yn gorffen masnachu a chaiff y fwynfa ei gweithio bob yn hyn a hyn o dan y British Metal Corporation ac eto o dan Craig and Herbert tan 1927.
1927 – Ar ôl sawl blwyddyn o gynhyrchu mwyn yn llwyddiannus, o dan Thomas Ward ar y diwedd, mae Esgairmwyn yn cau.
1927 – mae Gallois Lead and Zinc Mines Ltd yn cymryd drosodd y prydlesi ac yn dal i archwilio mwynfeydd Cwmystwyth.
1933 – daw Rufus Brown yn rheolwr y cwmni Gallois ac mae Howell Evans yn aros ar y safle, yn byw yn hen dŷ capten y gwaith.
1939 – mae Rufus Brown yn gorffen gweithio i'r cwmni Gallois ond yn parhau i fwy ar y safle.
1939 – tân dan ddaear yn cau mwynfeydd Tre'r Ddol, y gweithfeydd tanddaear olaf o bosibl yn y Sir.
1941 – Rufus Brown a Howell Evans yn marw dan amgylchiadau gwahanol. Mae Winifred Brown, gweddw Rufus, yn aros ar y safle fel gofalwr nes iddi symud oddi yno yn y 1950au.
1947 – Gosodir gwaith prosesu gwastraff modern yn Esgairmwyn i drin ac ailweithio'r tomenni gwastraff.
1949 – Elenith Mining Co. yn gweithio yn Esgairmwyn.
1953 – Caiff yr olwyn ddŵr 50 troedfedd yn Llywernog ei ffrwydro â dynameit i fod yn sgrap.
Diwedd 1960au/dechrau'r 1970au – cynhelir gwaith archwilio a mapio gan gwmni'r Anglo-Celtic o Vancouver (a ddaw yn ddiweddarach yn Cambrian Explorations), Andex Mines a Shannon Mining and Manufacturing sy'n turio 10 twll mewn safleoedd gwahanol yn y maes mwyn.
Diwedd 1960au – ailweithio tomenni Cwmsymlog.
Wheel at Llywernog Silver-Lead mine museum

1974 – mae Amgueddfa Mwyngloddio Arian a Phlwm Llywernog yn agor ym Mhonterwyd.
1976 -1980 – Buddsoddi pellach ac ymgais derfynol gan Elenith Mining Co. i ailweithio tomenni gwastraff Esgairmwyn.
1980au – mae Aber Resources yn cynnal ymarfer cynllunio yn yr ardal.
1981 – cynhelir gwaith adfer er mwyn atal y gwynt rhag chwythu llygredd yng Nghwmsymlog.
1987 – llyncir gwaith Brynyrafr wrth ddatblygu cronfa ddŵr Nant y Moch.
1990au – mae Elenith Mining yn cynnal gwaith adfer yn Esgairmwyn.
1992 – dechreua Cyngor Sir Dyfed ar waith i ddatblygu safle gwaith plwm Ystrad Einion, a rhan o hynny yw prynu tir gan gyn-leisydd Led Zeppelin, Robert Plant.
2002 – Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi Strategaeth Mwynglawdd Metel dros Gymru ac yn dechrau archwilio yng Nghwm Rheidol.
2004 – prosiect Ysbryd y Mwynwyr yn dechrau.

Mae gweithgarwch yn dal i ddigwydd hyd heddiw ar safleoedd yr hen fwynfeydd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw llygad am lygredd mewn nifer o'r safleoedd o ganlyniad i'r Strategaeth Mwynglawdd Metel dros Gymru; Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedyn yn monitro safleoedd a benodwyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae CADW hefyd wedi penodi rhai safleoedd yn Henebion ac Adeiladau Hanesyddol. Mae gan sefydliadau megis Cymdeithas Mwyngloddiau Cymru ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru ddiddordeb yn hen weithfeydd mwyngloddio Ceredigion ac mae archeolegwyr yn parhau i archwilio'r mwynfeydd a diwydiannau cysylltiedig er mwyn gweld sut yn union yr oeddynt yn rhan o ddatblygiad cynnar y sir a Chymru gyfan.

O dro i dro, mae gwerthoedd y farchnad yn deffro'r diddordeb masnachol yn y maes mwynau hwn, a cheir ymweliadau, cynnal arolygon a mesur y tir a llunio adroddiadau. Efallai oherwyddl costau cynyddol metal yr adnewyddir y diddordeb hwn yn y dyfodol er ei bod yn annhebygol iawn y caniateir unrhyw gloddio ar raddfa eang yn y dyddiau sydd ohoni â chyfyngiadau cynllunio a phryder amgylcheddol.

Nid yw'r holl weithgarwch ar y safleoedd gwaith yn un cadarnhaol ychwaith. Oherwydd fod y safleoedd hyn mor anghysbell, cânt yn aml eu camddefnyddio gan gerbydau hamdden, yn aml heb ganiatâd y perchennog tir, a heb falio dim fod y safle wedi'i phenodi yn un hanesyddol neu'n un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae diwylliant o esgeuluso a dinistrio gan rai perchnogion tir hefyd – yn rhannol oherwydd nad ymddengys bod diben masnachol i'r safleoedd mwyngloddio. Mae cynnydd yng ngwerth tir yn tueddu i annog lefelu ac ailddatblygu hen safleoedd mwyngloddio waeth beth fo'u gwerth hanesyddol neu amgylcheddol.

Tipio anghyfreithlon tipping




Mae rhai pobl sy'n ystyried yr hen safleoedd gwaith pellennig hyn yn llefydd delfrydol i adael hen geir ac i arllwys sbwriel yn anghyfreithlon, a thrwy wneud hynny yn ychwanegu at y problemau i'r tirfeddianwyr sy'n gorfod bod yn gyfrifol am waredu'r gwastraff hwn ac yn gorfod ysgwyddo'r baich ariannol a ddaw yn ei sgil.




Mae prosiect Ysbryd y Mwynwyr yn gobeithio atgoffa pobl pa mor bwysig yw'r gweithfeydd hyn i ddiwylliant a threftadaeth pobl Ceredigion a thrwy gofio gellir ymfalchïo unwaith eto yn y safleoedd hyn yn hytrach na'u hystyried fel dim byd ond niwsans.



Golygfa oddi ar chwarel Hafan

Cwmystwyth

Capel Cwmsymlog


Nôl i'r Llinell Amser