Jump to content
Title: Ysbryd y Mwynwyr - Spirit of the Miners
Wheelhouse, Bryn yr ArianChimney, TaliesinOchre
 

Offer/Trin y Mwyn


Offer


Un rheswm pam mae tirwedd mwyngloddio Canolbarth Cymru yn wahanol i dirwedd Cernyw, dyweder, yw natur anghysbell y tir. Roedd y gost o gludo'r glo i Ganolbarth Cymru ac yna'i ddosbarthu i'r mwyngloddiau anghysbell yn golygu nad adeiladwyd y peiriannau ager a oedd yn drwm ar lo, na'r adeiladau i'w cadw, na'r simneiau uchel sydd mor nodweddiadol o Gernyw a lleoedd eraill, oherwydd nad oedd yn talu ffordd i'w hadeiladu. Defnyddiwyd peiriannau ager mewn rhai lleoedd, megis Cwmsymlog, Tal-y-bont, Llancynfelin a Frongoch. Ond nid oedd y rhan fwyaf o fwyngloddiau Ceredigion yn ddigon dwfn i gyfiawnhau buddsoddi ynddynt. Roeddent yn hytrach yn dibynnu ar adnodd yr oedd digon ohono yn y sir, sef dŵr.

Wrth i'r defnydd o fetelau ehangu a'r angen amdanynt gynyddu, newidiodd y dulliau o gael y metelau hynny o'u mwynau. Parhaodd yr offer sylfaenol a ddatblygwyd i gloddio'r metelau, sef tân, dŵr, morthwyl a nerth bôn braich i gael eu defnyddio tan gyfnod diweddar.

Morthwyl

• Prif offeryn y mwyngloddiwr oedd tân. Roedd y broses o osod tân yn golygu bod y mwynwr yn cynnau tân yn erbyn y graig, ei gynhesu i dymheredd addas ac yna arllwys dŵr oer ar y graig. Byddai hyn yn ei hollti yn ddarnau hylaw i'w trin. (link to early mining pages). Wedyn, defnyddid offer llaw cyntefig, esgyrn, cyrn ceirw, offer haearn cyntefig a morthwylion cerrig, a adwaenir yn lleol fel pwywyr, i dorri i fyny darnau mwyaf y fewngraig.



Coffin Level




• Yn ddiweddarach, byddai offer arbenigol yn cael ei ddatblygu, megis caib mwynwr â phwynt main ar un pen a morthwyl ar y pen arall. Defnyddid y rhain nid yn unig ar gyfer cael y mwyn ond hefyd i gloddio'r lefelau cyntaf. Adwaenir y lefelau cyntaf hyn bellach fel 'lefelau coffin', a enwid oherwydd eu siâp - sef corff dyn - er mwyn lleihau'r gwaith oedd ei angen ei wneud i'w ceibio.




Drilio gyda llaw


• Cymerwyd cam mawr ymlaen yn y 1690au pan ddefnyddiwyd powdwr gwn am y tro cyntaf. Er hynny, fe barhaodd ceibio â nerth bôn braich am amser hir ar ôl hynny. Roedd yn rhatach i brynu llafur dynion na phowdwr gwn. Byddai tyllau yn cael eu drilio â llaw gan dimoedd o ddynion yn defnyddio morthwylion a thurniwr drilio. Llenwid y tyllau â phowdwr, gosodwyd y ffiwsiau, eu selio â chlai a'u cynnau. Byddai'r powdwr wrth losgi yn mynd yn fwy yn y twll ac yn hollti'r graig.

Symudwyd y fewngraig mewn berfâu ar y dechrau. Wrth i fwyngloddio ddatblygu gosodwyd traciau yn y lefelau er mwyn symud y deunydd mewn tryciau. Codwyd y mwyn i'r wyneb neu i lefelau uwch drwy dyllau aer, winsis a chiblau. Aed â'r fewngraig i'r felin. Arllwyswyd y cerrig oedd yn wastraff i lawr ochr y mynydd i ffurfio'r tomenni sbwriel a welir heddiw.


• Wrth i fwyngloddio ddatblygu, daeth y gof a'r saer coed yn hanfodol. Gydag amser byddai gan bob gwaith mwyn ei efail ei hun ac arbenigwyr gwaith coed oherwydd dyma'r deunydd adeiladu pwysicaf yn y lleoedd hyn. Gwaith y seiri hyn fyddai gosod y coed yn y siafftiau ac adeiladu fframiau'r to.

• Yn ddiweddarach, defnyddid dŵr, aer neu drydan i yrru'r offer i ddrilio'r graig yn y mwyngloddiau mwyaf fel Tal-y-bont a Chwmystwyth.


Trin y Mwyn


Process of sieving ore


• Cludwyd mwynau metelaidd o'r mwynfeydd fel metal pur, felly roedd yn rhaid ei wahanu o'r graig rwbel (gwastraff) ar y safle.
• Roedd y broses hon yn cynnwys malu a mathru'r defnydd a godwyd yn ronynnau mân o faint arbennig, ac yna (oherwydd bod gan ronynnau metelaidd ddwysedd cymharol uwch) gellid gwahanu gronynnau'r graig ysgafnach o'r mwyn trymach drwy lif neu ddirgryniad dŵr. Yr egwyddor hon a oedd ar waith wrth ddefnyddio gogrwyr (jiggers), 'buddles', a byrddau ysgwyd yn ddiweddarach.
• Byddai'r broses yn ddull yr oedd disgyrchiant yn bwysig, gan y gwneid y malu cychwynnol ar y graig wrth iddi ddod allan o'r gwaith cloddio ar ben uchaf y safle.
• Câi darnau mawr eu torri â gordd ar ridyll metal a fyddai ond yn gadael i ddarnau o faint penodol ddisgyn drwyddo, sef maint a fyddai'n addas i'w fwydo drwy'r malwr neu'r peiriant mathru.



Budle/Cerwyn

• Fel arfer byddai'r malwr yn cynnwys dau roler, ac roedd yn rhaid angori'r rhain yn hollol gadarn i'w rhwystro rhag cael eu rhwygo o'r fan y'u gosodwyd. Os mai olwyn ddŵr oedd yn gyrru'r malwr hwn yna câi ei osod yng ngherrig maen twll yr olwyn ddŵr.
• Câi'r mwyn oedd wedi'i dorri a'i falu ei wneud hyd yn oed yn llai drwy ddefnyddio un ai melin falu neu felin rolio. Roedd melinau malu wedi'u gyrru gan olwyn ddŵr yn gyffredin yn Lloegr, ond yng nghanolbarth Cymru y melinau rolio oedd yn fwyaf cyffredin.


• Gan fod y mwyn plwm yn weddol drwm, roedd yn weddol hawdd ei wahanu o'r graig wastraff. Gwnaed hyn gan beiriant trin y mwyn, sef y “Self Acting Dressing Machinery” dyfeisgar, a gynhyrchwyd gan ffowndri Cambrian George Greens yn Aberystwyth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yn unig y defnyddid y ddyfais hon yn lleol yng Ngweithfeydd Mwyngloddio Talybont a Rhoswydol ger Machynlleth, ond defnyddid hi hefyd ledled Prydain, mor bell â Gwaith Greenside yn Ardal y Llynnoedd a Killhope yng ngogledd y Penwynion (Pennines).



<<<< Cyflwyniad